|
{FULL_NAME} Mae adroddiad wedi dod i law am ladrad parsel yn eich ardal o ddanfoniad drws i'r drws. Yr adeg hon o'r flwyddyn, bydd danfoniadau drws i'r drws yn uwch na'r arfer oherwydd cyfnod y Nadolig. Isod mae rhywfaint o gyngor ar rai pethau y gallech eu gwneud i leihau'r risg o ladrad drws: • olrhain eich parsel i sicrhau eich bod chi neu rywun arall gartref ar gyfer y danfoniad • gosodwch gloch drws fideo; gellir cysylltu hon â'ch ffôn symudol fel eich bod yn cael gwybod ar unwaith am unrhyw ddanfoniad, ac mae'n haws i'w gosod na system CCTV lawn • gosod golau diogelwch • trefnu i’ch parsel gael ei ddanfon at gymydog dibynadwy, neu aelodau eraill o’r teulu a fydd gartref; os ydych chi’n byw mewn fflat, oes conscierge a allai dderbyn y parsel ar eich rhan? • defnyddio gwasanaeth loceri oddi ar y safle ar gyfer danfoniadau mynych, neu ar gyfer eitemau drud; mae'r blychau parseli hyn yn fwy tebygol o fod mewn lleoliadau prysur, mwy diogel - fel archfarchnadoedd - yn hytrach nag ardaloedd diarffordd a allai gael eu targedu gan ladron • Gosod blwch parseli diogel • Osgowch bostio am ddanfoniadau sydd ar ddod ar gyfryngau cymdeithasol |