|
{FULL_NAME} Mae adroddiad wedi dod i law am ladrad parsel yn eich ardal o ddanfoniad drws i'r drws. Yr adeg hon o'r flwyddyn, bydd danfoniadau drws i'r drws yn uwch na'r arfer oherwydd cyfnod y Nadolig. Isod mae rhywfaint o gyngor ar rai pethau y gallech eu gwneud i leihau'r risg o ladrad drws: olrhain eich parsel i sicrhau eich bod chi neu rywun arall gartref ar gyfer y danfoniad gosodwch gloch drws fideo; gellir cysylltu hon â'ch ffôn symudol fel eich bod yn cael gwybod ar unwaith am unrhyw ddanfoniad, ac mae'n haws i'w gosod na system CCTV lawn gosod golau diogelwch trefnu i’ch parsel gael ei ddanfon at gymydog dibynadwy, neu aelodau eraill o’r teulu a fydd gartref; os ydych chi’n byw mewn fflat, oes conscierge a allai dderbyn y parsel i chi? defnyddiwch wasanaeth loceri oddi ar y safle ar gyfer danfoniadau mynych, neu ar gyfer eitemau drud; mae'r blychau parseli hyn yn fwy tebygol o fod mewn lleoliadau prysur, mwy diogel - fel archfarchnadoedd - yn hytrach nag ardaloedd diarffordd y gallai lladron eu targedu Gosod blwch parseli diogel Osgowch bostio am ddanfoniadau sydd ar ddod ar gyfryngau cymdeithasol |