|
||
|
|
||
|
||
|
Crynodeb Wythnosol gan Bettws NPT |
||
|
{FULL_NAME} Yr wythnos hon mae ein swyddogion a SCCH o Dîm Plismona Cymdogaeth (NPT) Bettws wedi bod yn cynnal patrolau ac yn mynd i'r afael â materion a amlygwyd gan ein cymunedau. Roeddwn i eisiau manteisio ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud yn eich ardal. Yn dilyn adroddiadau am weithgarwch cyffuriau yn yr ardal, aeth ein swyddogion i gyfeiriad yn Bettws. O ganlyniad: ✅ Atafaelwyd llawer iawn o gyffuriau dosbarth B. ✅ Atafaelwyd swm o arian. ✅ Atafaelwyd nifer o ffonau symudol. ✅ Daethpwyd o hyd i 1 arf ymosodol a'i waredu'n ddiogel. ✅ Atafaelwyd offer a chyfarpar cyffuriau. Mae'r ymchwiliad yn dal i fynd rhagddo ac mae ymholiadau'n cael eu cynnal. Hefyd, tra roeddent ar batrolau, daeth ein SCCH o hyd i berson oedd yn cael ei geisio ac roedd ein swyddogion NPT yn gallu ei arestio. Mae'r person hwn wedi cael ei arestio am 6 throsedd siopladrad, torri sawl gorchymyn Hysbysiad Diogelu Cymunedol, torri gorchymyn llys a difrod troseddol. Ers hynny, mae wedi cael ei gyhuddo a'i gadw yn y ddalfa am y troseddau hyn. | ||
Reply to this message | ||
|
|





